GWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRU
YMATEB I'R YMGYNGHORIAD AR FIL LLESIANT CENHEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU)
1. Sut dylai Llywodraeth Cymru ddeddfwriaethu i roi cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy wrth wraidd llywodraethu a'r sector cyhoeddus ehangach
Mae'r bil yn fan cychwyn da. Fodd bynnag, gall meysydd eraill o ddeddfwriaeth wrthdaro â chyflawniad y nodau a rhaid ystyried hwn.
Ni fydd deddfwriaeth ar phen ei hun yn effeithiol; bydd angen rhoi rhaglen gynhwysfawr mewn lle i addysgu a hysbysu'r cyhoedd a chenedlaethau'r dyfodol ynghylch y nodau asut y gellir eu cyflawni orau. Fodd bynnag, o ystyried y toriadau parhaol mewn cyllid sy'n wynebu cyrff cyhoeddus, fe all y dull hwn gael ei gyfaddawdu gan anallu'r cyrff i ddyrannu adnoddau priodol (dynol ac ariannol) i gefnogi'n effeithiol unrhyw newid arwyddocaol.
Bydd hefyd angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut fydd sector cyhoeddus Cymreig sy'n crebachu yn effeithio ar iechyd, llesiant a thlodi Cymru i'r dyfodol.
2. Egwyddorion cyffredinol Bil Llesiant Cenhedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth yn y meysydd canlynol:
· Egwyddor “Nod Gyffredin” a “Datblygiad Cynaliadwy” a sefydlwyd gan y Bil a'r “Cyrff Cyhoeddus” a nodwyd
Yr unig bryder yw sut y gellir cwrdd â phwrpas y Ddeddf mewn modd real ac arwyddocaol heb gasglu data'n rymus (nodweddion gwarchodedig) sy'n arddangos gwelliant llesiant i bob cymuned yng Nghymru'n glir.
· Y dull i wella llesiant, gan gynnwys gosod nodau llesiant, a sefydlu amcanion gan gyrff cyhoeddus a'r dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus
Tra'r ystyrrir yr amcanion cyffredin fel y'u diffiniwyd yn ddilys, mae'r dull gyfan yn ddryslyd. Gallai fod yn gliriach i ganiatáu'r sector cyhoeddus i gytuno ‘amcanion cyffredin’ ar gyfer eu hardal i'w cynnwys yn y cynllun llesiant yn hytrach na phob aelod o'r corff yn penderfynu ar eu rhai eu hunain ac yn darparu themâu fyddai'n sail i gynlluniau; felly'n adeiladau dull partner cyffredin i anghenion lleol wrth ddarparu llesiant i'r dyfodol.
· Y dull i fesur cynnydd tuag at gyflawni nodau llesiant ac adrodd cynnydd
Mae'n bwysig gallu cymharu llwyddiant ar draws pob corff a bod yn gallu barnu gwelliant arwyddocaol ar draws holl sectorau cymdeithas. Felly bydd angen canolbwyntio unrhyw fetrigau a ddatblygir ar ganlyniad.
· Sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru a rôl, pwerau, cyfrifoldeb, llywodraethiant ac atebolrwydd y Comisiynydd
Mae sefydlu Comisiynydd yn iawn, ond fe gynigir y dylai Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gael ei gynnwys yn y panel ymgynghori hefyd. Fodd bynnag, mae'n rhaid sicrhau na fyddai panel o'r fath yn tynnu oddi ar y nodau drwy hyrwyddo eu hagenda eu hunain ond drwy sicrhau cydymffurfedd ac integreiddiad â chyfreithiau perthnasol.
· Sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus statudol ac asesu cynlluniau llesiant lleol
Mae cysyniad byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi'i gorffori'n ddwfn drwy ddull byrddau gwasanaethau lleol; fodd bynnag, atgyfnerthir y cysyniad ymhellach drwy'r dull aelod statudol. Mewn perthynas â'r Gwasanaethau Tân ac Achub, noda'r ddeddfwriaeth y dylai naill ai'r Prif Swyddog Tân, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub, neu'r ddau fynychu. Golyga hwn y bydd gofyn i'r Prif Swyddog Tân/Cadeirydd fynychu 10 o fyrddau, a fydd yn hynod anodd i'w gyflawni. Gwell fyddai caniatáu'r Prif Swyddog Tân i benodi cynrychiolydd a naill ai ysgrifennu'r ddedfwriaeth fel hynny neu ganiatáu i ddirprwyaeth y Prif Swyddog Tân benodi cynrychiolydd. Byddai cam o'r fath yn caniatáu'r Gwasanaeth i strwythuro'i ddull i gyrff sector cyhoeddus yn fwy effeithiol.
Mae hefyd angen ystyriaeth gofalus o ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, megis Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 sy'n sefydlu partneriaethau diogelwch cymunedol, a sut fydd y strwythurau hyn yn integreiddio â'r byrddau'r gwasanaethau cyhoeddus.
3. Pa mor effeithiol fydd y Bil yn mynd i'r afael â rhwymedigaethau rhyngwladol Cymreig mewn perthynas â datblygu cynaliadwy
Wrth iddo gael ei gydnabod bod gennym effaith y tu hwnt i'n ffiniau a bod Llywodraeth Cymru'n cyfrannu at rwydwaith llywodraeth leol ar gyfer datblygu cynaliadwy, dim ond pan gawn llwyddiant o fewn Cymru y medrwn ddylanwadu ar eraill mewn gwirionedd. Ni ddylid cyfaddawdu nodau'r Bil hwn na'r hyn y golygwyd iddo'i gyflawni yng Nghymru gan yr hyn sydd angen ei gyflawni'n rhyngwladol gan, yn aml, bydd hyn y tu hwnt i'n rheolaeth neu faes ein prif ddylanwad.
4. Unrhyw rwystrau posib i weithrediad y darpariaethau hyn a ph'un ai ydy'r Bil yn atebol iddynt
Nid yw'r Bil yn ddigon penodol. Mae'n aneglur sut y cyflawnir yr amcanion ac efallai byddai'n well cyflwyno themâu lle gellir fframio'r cynlluniau. Yn ogystal, mae'n aneglur sut y caiff sefydliadau eu harchwilio mewn perthynas â'u cydymffurfedd â darpariaethau'r Bil. Hefyd, sut caiff byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu harchwilio parthed eu cyd gyfraniad i wella llesiant cymunedol ar draws ardal ranbarthol neu isranbarthol fawr?
5. Pu'n ai oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol sy'n codi o'r Bil
Mae gwrthdaro posib â darnau eraill o ddeddfwriaeth a hefyd mae gwrthdaro posib gan fentrau cenedlaethol eraill sy'n digwydd/arfaethedig.
Bydd angen ystyried rôl strwythurau sy'n gwrthdaro: byrddau cydweithredol rhanbarthol, partneriaethau diogelwch cymunedol a rhanbarthoedd dinesig presennol.
6. Goblygiadau ariannol y Bil (fel y caiff ei nodi yn rhan 2 o'r memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol, sy'n amcangyfrif costau a buddion gweithredu'r Bil)
Tra fod y memorandwm esboniadol yn archwilionifer o opsiynau cost, nid yw'n eglur pa mor gywir yw'r costau hyn. Mae'n rhaid cofio fod y sector cyhoeddus Cymreig yn wynebu toriadau digyffelyb i gyllidebau a'u bod yn ymgysylltu â chymunedau ynghylch toriadau gwerth amryfal filiynau o bunnoedd i'w cyllidebau i gyflwyno anghenion sydd mewn effaith yn gosod beichiau ychwanegol ar gyrff y sector cyhoeddus, ond na fydd o bosib er lles pawb ar hyn o bryd.
7. Priodoldeb pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymreig gyflawni deddfwriaeth israddol (fel y nodwyd ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r memorandwm esboniadol, sy'n cynnwys tabl yn crynhoi pwerau Gweinidogion Cymreig i gyflawni deddfwriaeth israddol)
Tra y gall fod yn synhwyrol fod gan Weinidogion Cymreig y pwerau hyn, bydd angen ystyriaeth gofalus ar eu defnydd yng nghyswllt y sylwadau ynghynt yn yr ymateb hwn ynghylch cyllidebau.
Dylai deddfwriaeth israddol a Gweinidogion Cymreig sefydlu'r weledigaeth a chaniatáu partneriaid lleol i ddatblygu cynlluniau darparu i sicrhau dyfodol llesiant yr unigolion, y teuluoedd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.